YMATEB I YMGYNGHORIAD CLlLC ar

Gaffael Cyhoeddus yn yr Economi Sylfaenol

 

20 Awst 2019

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

Procurement in the foundational economy

EIS(5)PFE(01)

Ymateb gan CLILC

Evidence from WLGA

 

CYFLWYNIAD

 

1.             Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’r 3 awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cyswllt. 

2.             Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol a arweinir yn wleidyddol, gydag arweinwyr pob awdurdod lleol yn penderfynu ar bolisi drwy’r Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor CLlLC ehangach. Mae CLlLC hefyd yn penodi uwch aelodau fel Llefarwyr a Dirprwy Lefarwyr i roi arweiniad cenedlaethol ar faterion polisi ar ran llywodraeth leol.

3.             Mae CLlLC yn gweithio’n agos ag ymgynghorwyr a chymdeithasau proffesiynol o lywodraeth leol ac yn cael cyngor ganddynt yn aml, fodd bynnag, CLlLC yw corff cynrychioliadol llywodraeth leol sy’n darparu llais gwelidyddol cyfunol llywodraeth leol yng Nghymru. 

 

I gynorthwyo â’r ymholiad i gaffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol, gofynnodd y Pwyllgor am safbwyntiau ar unrhyw un neu bob un o’r pwyntiau canlynol:

 

·         Beth yw’r sefyllfa bresennol o ran cyfran y contractau lleol yng Nghymru sy’n mynd i gyflenwyr o Gymru?

 

·         I ba raddau y gallai cynyddu ‘caffael lleol’ ar ran y sector cyhoeddus greu cadwyni cyflenwi lleol cryfach a chreu mwy o gyfoeth mewn cymunedau ar draws Cymru?

 

·         Beth yw eich barn chi o’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu faint o ‘gaffael lleol’ sy’n digwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys sut y bydd ‘caffael lleol’ yn cael ei ddiffinio a’i fonitro; sut y mae egwyddorion caffael cynaliadwy a moesegol yn cael eu rhoi ar waith; a sut y mae’r nodau statudol a osodwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu diwallu)?

  

·         Ym mha ffyrdd y gellid cynyddu a chynnal gwariant lleol a chaffael cydweithredol wrth weithio o fewn fframwaith gaffael yr EU, pa bynnag drefniadau a allent fod yn eu lle yn dilyn Brexit?

  

·         Allwch chi roi enghreifftiau o fentrau caffael tebyg mewn mannau eraill o’r DU ac yn yr UE?

 

 

YMATEB

Byddwn yn ymateb i bob un o  gwestiynau’r pwyllgor yn eu tro, fel a ganlyn:

 

1.       Beth yw’r sefyllfa bresennol o ran cyfran y contractau cyhoeddus yng Nghymru sy’n mynd i gyflenwyr Cymreig?

 

Pennir cyfran y contractau Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy'n mynd i gyflenwyr Cymreig ei ar sail tri pheth:

 

·         Argaeledd cyflenwyr addas yng Nghymru

·         Gallu cyflenwyr yng Nghymru i dendro’n llwyddiannus

·         Gallu Awdurdodau Lleol Cymru i ddyfarnu i gyflenwyr o Gymru.

 

Os yw hyn yn ymddangos yn or-symleiddiad, rhaid cofio bod y llu o ffactorau sy’n effeithio ar y materion hyn ymhell o fod yn syml. Byddai absenoldeb unrhyw un o’r rhain yn lleihau achosion o ddyfarnu contractau i gyflenwyr o Cymru.

 

Mae cymysgedd o gontractau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cael eu dyfarnu gan Awdurdodau Lleol, neu sefydliadau fel y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sy’n gweithredu ar ran Awdurdodau Lleol.  

 

Mae’r rhain i gyd ar hyn o bryd dan adolygiad gan y Rhwydwaith Penaethiaid Caffael  Llywodraeth Leol.  Mae’r cefndir i hyn a’r egwyddorion allweddol a sefydlwyd er mwyn symud caffael llywodraeth leol yn ei flaen wedi’u hamlinellu yn y ddogfen atodol “Dyfodol Caffael Cydweithredol Llywodraeth Leol yng Nghymru – Buddsoddi mewn Caffael Llywodraeth Leol i ddarparu ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol.”

 

Ymysg yr uchelgeisiau yn y ddogfen hon mae’r dymuniad i ddefnyddio data i hysbysu ymdriniaethau caffael newydd ac i arloesi.  Fodd bynnag nid oes unrhyw gronfa ddata unigol sy’n crynhoi gwybodaerth am gontractau i gyflenwyr Cymreig.  Mae yna hefyd ddiffyg data mewn rhai meysydd hollbwysig, er enghraifft am fylchau cyflenwi a chadwyni cyflenwi, gan gynnwys  ymhle y mae cydrannau neu gynhwysion y nwyddau parod yr ydym yn eu prynu yn deillio ac beth yw ein gwendidau strategol pe bai rhywbeth yn tarfu ar y gadwyn gyflenwi.  Mae'n annhebygol y gallwn brynu popeth y mae arnom ei angen o Gymru, ond mae'n bosibl y gallem brynu mwy.  Dylai fod yn bosibl i ni wybod beth sydd ar gael a lle mae’r bylchau mewn cyflenwadau. Fodd bynnag mae llawer o’n gwybodaeth leol hanesyddol wedi’i cholli yn sgil disbyddiad swyddogion profiadol.  Yn strategol, does neb mewn gwirionedd yn gwybod.  Mae contractio wedi bod yn ddibynnol ar broses o hysbysu, ymateb a dethol drwy farchnad agored sy’n ymestyn ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

 

 “Gallwch dendro'r hyn a fynnwch; ond dydych chi byth yn gwybod yn iawn beth fyddwch yn ei gael yn ôl ac rydych yn ddibynnol ar bobl eraill i ymateb."

 

I ddibenion cymhariaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu mesur syml drwy Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.  Roedd Datganiad Polisi Caffael Cenedlaethol Mehefin 2015 yn dweud:

 

“Rydym wedi gweld gwariant a enillwyd gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn codi o 35% yn 2004 i 55% dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy'n siŵr bod potensial i hyn gynyddu fwy fyth yn y dyfodol."

 

Cafodd y ffigwr hwn ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfran y taliadau a wnaed yn hanesyddol gan Awdurdodau Lleol Cymru i dderbynyddion gyda chodau post Cymreig drwy’r prif systemau credydwyr.  Caiff y mesur hwn ei gadw gan Lywodraeth Cymru a dylid cael y wybodaeth ganddyn nhw.

 

Rydym wedi gweld nifer o ffigyrau cyfwerth yn cael eu dyfynnu gan sefydliadau unigol yn cynnwys Awdurdodau lleol, gyda rhai ohonynt wedi cyflawni hyd at 100% mewn categorïau unigol.  Fodd bynnag nid yw’r wybodaeth hon yn dweud wrthym beth yw cyfran y contractau cyhoeddus yng Nghymru sy'n mynd i gyflenwyr o Gymru ond yn hytrach yn rhoi syniad i ni o ble mae'r taliadau'n mynd ac a yw'r lleoliadau hynny yng Nghymru.  

 

Mae data taliadau yn ddangosydd cyffredinol da o batrymau gwariant ond nid yw o fawr o ddefnydd o ran gwella'r economi sylfaenol yng Nghymru.   I’r diben hwnnw bydd arnom angen dealltwriaeth fanwl o’r cadwyni cyflenwi a bod a’r gallu i ddarogan anghenion busnes y dyfodol, a gwybodaeth am ffrydiau ariannu er mwyn gallu rhagweld ymlaen llaw ymhle y bydd arian cyhoeddus yn cael ei wario.  Mae marchnadoedd yng Nghymru wedi’u tan-ddatblygu pan ddaw i dyfu busnes ac arloesedd. Nid oes digon o adnoddau na gwybodaeth i gefnogi gwelliannau yn y maes hwn.

 

“Nid yw’r ffaith bod y Cyngor wedi gwario swm ar offer cae chwarae eleni yn golygu y byddant yn gwario hynny eto'r flwyddyn nesaf.  Mae'r rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru yn enghraifft allweddol lle pennodd Llywodraeth Cymru raglen ar gyfer uwchraddio tai dros gyfnod o amser.  Mae’r rhaglen honno’n awr yn dirwyn i ben, felly beth fydd yn digwydd i’r contractwyr lleol sydd wedi bod yn gweithio gyda ni am 10 mlynedd pan nad oes gennym bellach waith ar eu cyfer?  Dylent gael gwaith yn adeiladu tai newydd sbon, ond a ydym ni wedi eu cefnogi nhw i fod yn barod ar gyfer amgylchedd gwaith gwahanol? Nid wyf yn credu ein bod ni.  Gallai’r bwlch sgiliau sy’n deillio o hyn arwain at arian yn mynd y tu allan i Gymru."

 

Rhaid hefyd ystyried Ymddygiad Cyflenwyr os ydym am ddeall beth sy'n digwydd o ddifri o fewn y ffigwr hollgynhwysfawr o £3.3 biliwn ar gaffael Awdurdodau Lleol.  Er enghraifft:

 

·         Efallai y bydd yn ymddangos bod cyfryngwyr neu ddosbarthwyr yn derbyn cyfran fawr o wariant ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ond nid 'Gwariant Cymreig’ yw hyn o ran yr economi sylfaen.  Mae arian a werir yma’n ddieithriad wedi’i gyfyngu i orbenion lleol megis gorsymiau delwyr a logisteg graddfa fach.  Mae nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu neu eu prosesu fel arfer yn dod o amryw o ffynonellau gan gynnwys Cymru ond nid oes gennym fodd o weld yn union o ba ffynonellau nac ym mha gyfrannau.  Y tebygrwydd yw y bydd y rhan fwyaf o nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu’n dod o ffynonellau rhyngwladol gyda’r gwerth i economïau sylfaenol yn digwydd yn y mannau lle cant eu cynhyrchu.

 

·         Cynnyrch deunyddiau sy’n deillio o Gymru lle bydd y gwerth ychwanegol (megis prosesu  neu gynhyrchu) yn digwydd y tu allan i Gymru. Ychydig o ddata sydd gennym, ond gwyddom o brofiad bod rhywfaint o gynnyrch llaeth a chig Cymreig yn cael ei gyflenwi yn y modd yma.  Mae’n bosib bod yn yn drosoledd negyddol o safbwynt economïau sylfaenol (economïau gwledig yn yr enghraifft hon), ond mae angen ymchwil i gadarnhau hyn.

 

·         Gwasanaethau sy’n cael eu diffinio fel  bod wedi’u treulio wrth iddynt gael eu cynhyrchu; maent yn cyfrif am gyfran uchel o wariant ac yn gyffredinol yn lleol yn eu darpariaeth.  Er enghraifft, yn y meysydd  mwyaf o wariant sef gweithwyr asiantaeth, gweithwyr gofal cyflogedig ac athrawon llanw, mae'r rhan fwyaf o werth yr anfoneb yn cael ei drosi'n dâl a chostau lleol sy'n ailgylchredeg yn naturiol o fewn yr economïau lleol. Mae’r swm a echdynnir o Gymru gan sefydliadau sy’n bilio o’r tu allan i Gymru fel arfer yn gyfyngedig i elw gweithredu a chostau cynnal canolog sy'n gallu bod yn gymharol fychan, o bosibl mor isel a 4-5%.

 

·         Mae eithriadau i’r rheol leol ar gyfer gwasanaethau yn dueddol o amlygu gwendidau cymharol mewn cyflenwad lleol, gan gynnwys bylchau  mewn sgiliau ac adnoddau, gyda hyn hefyd yn dynodi dibyniaeth/diffyg hanesyddol yng Nghymru neu ymddygiad ecsbloetiol o fewn cadwyni cyflenwi.  Er enghraifft:

 

o   Echdynnu elw o bell mewn gwasanaethau ariannol megis bancio ac ariannu cartrefi gofal.

o   Gwasanaethau seiliedig ar wybodaeth megis arbenigedd peirianneg, ariannol neu gyfreithiol gwerth uchel lle mae'r rhan fwyaf o arbenigedd wedi’i leoli y tu allan i Gymru.

o   Llafur symudol, wedi’i gaffael yn allanol neu heb fod yn breswyl mewn rhyw ffordd arall.

o   Gwasanaethau digidol neu seiliedig ar ddata a gaffaelir yn allanol

 

Mae’n bosib y gellid targedu’r gwendidau hyn ar gyfer ymyrraeth a datblygiad cadwyni cyflenwi lleol.  Os yw gwasanaethau'n rhai y gellir dod â nhw i mewn yna gellir yn yr un modd mynd â nhw allan os oes cynhyrchiad lleol cystadleuol.

 

·         Dewis syml o fewn y gadwyn gyflenwi.  Gall fod cryn benrhyddid o ran yr hyn y gall cyflenwr gael gafael arno i’w gyflenwi i Awdurdodau Lleol  Byddai rhai yn ei chael yn anodd dod o hyd i gynnyrch o Gymru.  Efallai y byddai eraill yn ei chael yn hawdd ond yn gweld fawr ddim angen i wneud hynny.  Gellir dylanwadu ar y ddwy sefyllfa gydag ymyriadau syml.  Er enghraifft arwyddbostio i gyflenwyr Cymraeg ac annog  cyflenwyr i ddewis darpariaeth o Gymru.  Gallai’r ymyriadau syml hyn weithio yr un mor dda yn ein sefydliadau ni ein hunain ag y maent mewn cadwyni cyflenwi am nad yw pob gwariant yn cael ei reoli gan reolwyr caffael.

 

“Dyma ble gall caffaelwr gael dylanwad go iawn drwy ymgysylltu ymlaen llaw â’r farchnad bod yn glir am y canlyniadau.  Richard, mae angen i ni fod yn glir gyda phawb mai’r hyn sy’n allweddol i lwyddiant yw gallu ac agwedd y swyddog caffael.  Mae’n ddrwg gen i ddweud hyn, ond mae ‘na rai pobl sydd ddim yn deall hyn o gwbl.  Mae cyfathrebu a deialog yn allweddol i lawer o'r hyn yr ydym yn ceisio ei wireddu ac yn syml nid yw’r bobl iawn gennym ni.”

 

·         Rhwydweithiau Mawr.  Mae peth gwariant o werth uchel yn digwydd ar draws rhwydweithiau, sy'n cynnwys Cymru, ond yn fwy na Chymru.  Mae telathrebu ac ynni yn enghreifftiau amlwg.  Mae’n bosibl bod gwariant yng  Nghymru neu rywle arall yn syml iawn, yn adlewyrchu’r trefniadau gweinyddol a sefydlwyd heb fod unrhyw gysylltiad â gweithgareddau yng Nghymru ac economi Cymru.

 

 

2.      I ba raddau y gallai cynyddu ‘caffael lleol’ yn y sector cyhoeddus greu cadwyni cyflenwi lleol cryfach a chreu mwy o gyfoeth mewn cymunedau ar draws Cymru?

 

Y ffordd orau o wireddu llewyrch lleol yw sicrhau bod cyflenwyr nwyddau, gwasanaethau a gwaith lleol yn ennill busnes ac yn ffynnu,  yn mabwysiadu arferion cyflogaeth deg, yn buddsoddi’n lleol ac yn cadw cyfoeth yn lleol.  Mae ymchwil gan yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion wedi dangos sut y mae hyn yn gweithio.

 

Gall lleoliaeth gynnwys tiriogaethau awdurdodau cyfagos, gan gynnwys Cymru gyfan, ond nid oes yn rhaid o reidrwydd cyfyngu hyn i Gymru yn unig. Nid fydd cymdogion llewyrchus yn gwneud unrhyw niwed i ni os cawn cael siâr teg o’u llewyrch ac yn wir mae ein perthnasoedd economaidd weithiau yn ymestyn yn eang. Mae marchnadoedd cyflenwi’n cael eu diffinio lai gan ffiniau gwleidyddol nag y maent gan ystyriaethau economaidd ac ymarferol busnes, megis agosrwydd canolfannau mawr poblog.  Mae’n rhaid felly pennu natur lleoliaeth o ran caffael yn lleol, gydag ymwybyddiaeth fasnachol os am wneud cydweddiad da a lleol gyda busnes.  Mae arnom angen pobl gyda’r sgiliau a'r gallu priodol i wneud hyn; rhaid i’r gwaith gael ei yrru gan fusnes craidd a bod yn effeithiol ym mhob lle ond nid o reidrwydd yn anghynhwysol gan y daw manteision ychwanegol o gydweithio.

 

Gall cyfran o’r busnes hwn ddod o gontractau cyhoeddus lleol ac o’r cadwyni cyflenwi sy’n cefnogi contractau cyhoeddus.  Fodd bynnag ni ddylid mesur llwyddiant yn ôl canran y gwariant llywodraeth leol a gedwir yng Nghymru, ond yn hytrach yn ôl pa mor dda y mae busnesau Cymru’n ei wneud yn gyffredinol, pa mor dda yw darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a sut y  mae hyn yn trosi’n gymunedau sy’n gweithredu’n dda.  

 

“Mae’n ymwneud â chydbwysedd.   Bydd rhai’n aros yn fach ac yn dibynnu ar Lywodraeth Leol a bydd eraill yn tyfu ac yn ehangu i’r sector preifat neu i Lywodraeth Leol yn Lloegr.  Ni fydd un maint yn ffitio pawb.  Maes risg uchel yw pan fydd busnes bach yn rhoi ei wyau i gyd mewn un fasged (un ALl) – os bydd model busnes neu batrwm gwariant yr ALl yn newid wedyn, yna bydd y busnes hwnnw mewn helynt.  Mae gennym dystiolaeth gref o hyn.”

 

Efallai y gallwn ddatblygu cadwyni cyflenwi cryfach yng Nghymru drwy wella gallu cyflenwyr Cymreig i gyflenwi gwasanaethau i gwsmeriaid y tu allan i Gymru. I wneud hyn bydd angen rheolaeth fusnes dda, rhywbeth nad oes ganddynt ar hyn o bryd o bosibl.  Mae’r rôl datbygu cyflenwyr felly'n bwysig dros ben a rhaid i gyflenwyr deimlo’n ffyddiog y byddant yn ennill y gwaith.   Mae'n rhaid i ni ddatblygu diwylliant o ddatblygu a hunan-ariannu gan na all busnes ddibynnu'n llwyr ar Awdurdodau Lleol.   Fe allem hefyd gefnogi cadwyni cyflenwi Cymraeg drwy sicrhau bod cyfran fwy o wariant lleol yn aros yma.  Daw’r gobaith mwyaf o lwyddiant o gynnal y cydbwysedd tecaf, neu o leiaf ymddwyn mewn fordd na fydd yn arwain at ymddygiadau negyddol mewn eraill a allai yn ei dro gael effaith negyddol ar refeniw busnes.

 

“Mae'n rhaid i ni gydnabod na fydd rhai cyflenwyr yn tyfu nac yn cydweithio.  Mae meddylfryd datblygu yn ffactor enfawr."  

 

Y pwynt yw bod yn fwy deallus mewn cydweithrediad.  Gallai, a dylai penderfynu ar y tendr mwyaf economaidd fanteisiol gynnwys agweddau o werth cymdeithasol.  Gellir annog a chefnogi gwytnwch yn y gadwyn gyflenwi ac mewn cyflenwad lleol drwy ymddygiadau caffael sy’n cael eu rheoli, yn gymesur ac yn briodol i’r maes dan sylw.  Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod â’r bobl iawn gyda’r sgiliau a’r ysgogiad angenrheidiol i ddefnyddio’r dulliau cywir ac i wneud y penderfyniadau iawn.  Mae’r Rhwydwaith Penaethiaid Caffael yn awyddus iawn i gefnogi hyn.  

 

Gellir hefyd annog cyflenwad lleol drwy greu amgylchedd sy’n cynnal gwytnwch naturiol a gwerth ychwanegol – amgylchedd lle mae busnes y dyfodol yn rhagfynegadwy ac ar gael.

 

Mae swyddogion caffael Llywodraeth Leol hefyd yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i helpu i ddynodi a datblygu cryfderau gwahanol ardaloedd yng Nghymru ac annog arbenigaeth mewn meysydd allweddol.  Enghraifft o hyn yw datblygiad peilot i gynhyrchu tecstiliau yn Nghymoedd y De drwy'r prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref.  Mae’r cryfder ‘coll’ hwn yn cael ei annog , yn syml iawn, drwy roi gwybod i stocwyr/dosbarthwyr Offer Amddiffynnol Personol (eisoes wedi’u contractio) am fenter gymdeithasol ym Merthyr Tydfil.  Mae hwn yn rhoi dewis, rhatach na mewnforio stoc o China sy’n gostwng costau dosbarthwyr ac yn datblygu’r economi mewn rhan o Gymru sy’n dymuno cael y gwaith.  Ar hyn o bryd mae deg prosiect peilot yn rhan o Swyddi Gwell yn Nes at Adref. Mae’r rhaglen yn newydd a heb wireddu ei llawn botensial eto.

 

Mae cadw trosolwg yn bwysig.  Nid oes yr un rhan o’r gadwyn gyflenwi sy'n gwbl annibynnol.   Mae angen dynodi a dileu ymddygiadau cadwyn cyflenwi  cudd ac nad ydynt  yn gefnogol.  Gellir annog twf ymddygiadau cadarnhaol drwy gontractau hyblyg a phartneriaethau arloesol.  

 

“Mae’n rhaid i ni roi cynnig ar bethau newydd, mae’n rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth y ffactor risg o wneud pethau’n anghywir ar y ddwy ochr i'r ffens.  Yr hyn y mae angen i ni ei gofio yw y gallai busnesau bach golli popeth, ac er y byddai cwestiynau'n cael eu gofyn i swyddog Awdurdod Lleol, fydden nhw'n colli eu bywoliaeth?  Weithiau mae’r risg yn rhy fawr i’r cyflenwr bach, hyd yn oed yr un mwyaf. Unwaith eto mae gennyf dystiolaeth y gallwn ei rhannu.”

 

Gallwn gefnogi hyn drwy wreiddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein prosesau caffael a thrwy gefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn gofyn i ni fod yn effro i anghenion y dyfodol, i gydnabod bod ein byd yn newid yn gyflym a bod angen defnyddio data i hysbysu a newid y mecanweithiau darparu yn hytrach na dibynnu ar broses ailadroddus. Rhaid hefyd bod â’r sgiliau a’r gallu i wrando a darllen yr arwyddion; i weld y pethau pwysig ynghanol y sŵn a’r llanast a gwybod beth y mae’n rhaid ei wneud i roi sylw i’r rhain.  Yna bod yn ddigon dewr i weithredu, i sylwi, i ddysgu ac i ddal ati i weithredu.

 

Ar 24 Mai 2019 derbyniodd Bwrdd Gweithredol WLGA adroddiad cychwynnol gan Benaethiaid y Rhwydwaith Swyddogion Caffael yn cynnig egwyddorion craidd i gefnogi’r feddylfryd hon.  Roedd y bwrdd yn cytuno’n fras a’r egwyddorion fel y'u cyflwynwyd.  Ymysg y rhain roedd yr egwyddor: “Ble bo hynny’n briodol byddai darpariaeth contractau’n cael ei glustnodi a’i gyflawni gan Ganolfannau o Arbenigedd Rhanbarthol sy'n Canolbwyntio ar Gategoriau  gyda'r hyblygrwydd i ddarparu contractau Cymru-gyfan os yn briodol.”

 

O dan drefniadau blaenorol Llywodraeth Leol roedd darpariaeth contractau'n cael ei roi i Awdurdodau Lleol ar sail  'y gwirfoddolwr parod'. O dan y model darparu arfaethedig newydd cytunwyd y dylid darparu contractau drwy Ganolfannau o Arbenigedd Rhanbarthol sy'n Canolbwyntio ar Gategoriau  gan y byddai hyn yn caniatáu i dȋm Awdurdod Lleol ddatblygu arbenigedd trylwyr a gwybodaeth fanwl o gategori penodol. Byddai cwmpas a chlustnodi'r canolfannau o arbenigedd posibl hyn yn cael ei ystyried fel rhan o ddatblygiad y Cynllun Cyrchu Llywodraeth Leol.

 

Y bwriad yw y bydd hyn yn galluogi gwell gwelededd a rhagfynegi ar gyfer caffael Awdurdod Lleol, er mwyn helpu i gynllunio adnoddau a chydweithio; rhoi cyfle i gyflenwyr posibl weld y cyfleoedd a gwella'r rhagolygon ar gyfer parhad y gadwyn gyflenwi.

 

Ni fydd yn angenrheidiol cyfyngu’r arbenigedd lleol i’r Awdurdod Lleol.  Yn ddelfrydol byddai arbenigeddau’n dilyn ymdriniaeth seiliedig ar le,  rhai yn dilyn trefn wedi’i sefydlu oherwydd mai yma y mae'r sgiliau, ond o bosibl hefyd ar sail ddatblygol,  wedi’i alinio a chryfderau lleol, beth bynnag y bônt.

 

Un cryfder o’r fath sy’n perthyn i bob rhan o Gymru mewn un ffordd neu’r llall, yw atyniad Cymru fel lle i fyw.  Bydd twf y gweithlu pell ar y cyd â seilwaith dechnolegol dda yn rhoi cyfleoedd yng Nghymru i ddenu gweithwyr pell sy'n ychwanegu gwerth.  Gellid cwestiynu a oes gan Gymru gyfan seilwaith dechnolegol ddigon da; ond does dim ond angen bod yn ddigon da  mewn digon o'r llefydd iawn i wneud gwahaniaeth.  

 

Yn 2007 dynododd ymchwiliad Gwerth Cymru i ddarpariaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghymru sut y gall ymyraethau bach wneud gwahaniaeth mawr mewn economïau seiliedig ar wasanaethau.  Er enghraifft fe wnaeth gwaith yr Athro Iwan Davies yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ddynodi y gallai arbenigaeth ychwanegu gwerth ar gyfer cyfreithwyr unigol; fodd bynnag roedd eu lleoliad yng  Nghymru yn ddieithriad yn golygu  arallgyfeiro ac aberth o ran cydbwysedd bywyd/gwaith, aberth yr oedd rhai yn barod i'w wneud ond gan yn arwain golled arbenigedd cyffredinol (ac felly gwerth seiliedig ar wybodaeth) yng Nghymru.  Mae’n bosibl y byddai galluogi arbenigaeth yng Nghymru yn cadw ac yn denu niferoedd bach o weithwyr gyda’r wybodaeth angenrheidiol a fyddai’nn ychwanegu gwerth mewn rolau strategol.  Efallai y targedir caffael cyhoeddus i gefnogi hyn, a hynny drwy weithgaredd caffael a thrwy ddatblygiad y proffesiwn caffael ei hun.

{0>

 

  Mae arnom angen ffocws ariannol a ffocws ar wariant fel ein bod yn gwybod beth sy’n dod i lawr y ffordd.  Rydym yn newid cymaint ac yn rhoi pobl allan o fusnes oherwydd ein cyllido ad hoc. Gwariant mawr yn cael ei daflu at y marchnadoedd ar ddiwedd y flwyddyn – dydi o ddim yn beth da ac yn rhoi dim sicrwydd.

 

3.       Beth yw eich barn chi am fwriad Llywodraeth Cymru i gynyddu ‘caffael lleol’ gan y sector cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys sut y bydd ‘caffael lleol’ yn cael ei ddiffinio a’i fonitro; sut y mae egwyddorion caffael cynaliadwy a moesegol yn cael eu rhoi ar waith; a sut y mae’r nodau statudol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu diwallu?

 

Rydym ni mewn Llywodraeth Leol yn gweld ‘Lleol’ fel rhywbeth wedi’i luosi 22 o weithiau; efallai bod Llywodraeth Cymru yn ei weld fel unwaith ar gyfer Cymru. Fodd bynnag mae gennym ddyheadau tebyg i gynyddu faint o gaffael lleol sy’n cael ei wneud gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.  

 

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus bod lleoliaeth  yn rhywbeth sy’n cael ei ‘wneud gan’ nid ei ‘wneud i’ Lywodraeth Leol, mewn caffael ac yn gyfochrog â sectorau eraill megis adfywio digidol ac economaidd, cynllunio ac addysg.

 

Gall Llywodraeth Cymru helpu yn hyn o beth drwy weithio gyda ni i gynnal amgylchedd lle gall pethau da ddigwydd.  Gall hefyd helpu gyda chefnogaeth ganolog, os mai cefnogaeth ganolog yw’r peth cywir a chymesur.  Yn y cyswllt hyn mae’r nodau statudol a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cyd-fynd â rhai Awdurdodau Lleol.   Mae’n siwrnai, ond os ceir ymagwedd gadarnhaol barhaus tuag at weithredu, dylem barhau i wneud y newidiadau a ragwelwyd yn y Ddeddf.

 

Gall Llywodraeth Leol helpu drwy hwyluso ymdriniaeth rhwydwaith a chyd-gefnogaeth a chydweithio a Llywodraeth Cymru a phartïon eraill, gan gynnwys swyddogion comisiynu WFG. Bydd hyn yn galw am gydweddiad a chyd-gefnogaeth.

 

Mae CLlLC, gyda Phenaethiaid Caffael Llywodraeth Leol, yn ymgymryd â rhaglen o ddiwygio gyda chefnogi’r economi sylfaenol wrth ei gwraidd.  Gofynnwn i Lywodraeth Cymru barhau i roi cefnogaeth gadarnhaol i’r rhaglen hon.  Mae ein hagwedd gadarnhaol tuag at ddiwallu egwyddorion caffael cynaliadwy a moesegol yn seiliedig ar:

 

·         Fanteisio ar yr arweiniad a ddarperir ar ein cyfer gan Lywodraeth Cymru

·         Cydweithio

·         Cyllido sy’n cefnogi’r economi sylfaenol ac yn caniatáu i’r sector dyfu. 

·         Edrych ar ddulliau caffael a chontractau amgen i rwystro gorddibyniaeth ar fframweithiau.

 

·         Sut ellir cynyddu a chynnal gwariant a chaffael lleol  wrth weithio o fewn fframwaith caffael yr UE, pa bynnag drefniadau fydd yn eu  lle ar ôl Brexit?

 

Mae Cynghorau Lleol yn sylfaenol

Y toriadau cyson i gyllidebau Llywodraeth Leol sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr economi sylfaenol ac ar allu Llywodraeth Leol i gynnal y cyflenwyr hynny sy’n ei wasanaethu.  Cynghorau Cymru yw sylfeini ein cymunedau. Maent yn darparu gwasanaethau lleol dydd i ddydd hollbwysig, o ysgolion i dai i ofal cymdeithasol  a chludiant lleol.  Maent yn llais democrataidd dros gymunedau amrywiol ac yn sgil hynny mae’r cynghorau a’r gwasanaethau hyn yn:


·diogelu ac yn cefnogi’r mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau
·taclo anghydraddoldebau yn ac ar draws cymunedau Cymru
·hyrwyddo Cymru decach drwy dwf cynhwysol

Y Cynghorau yw craigwely economaidd Cymru:
·yn cyflogi  dros 10% o weithlu Cymru ac yn addysgu ac yn hyfforddi gweithlu’r dyfodol
·yn gwario £3.5bn ar nwyddau a gwasanaethau mewn economïau cenedlaethol a lleol
·yn hyrwyddo twf economaidd uchelgeisiol ac adfywiad rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru.


Mae Gwasanaethau Lleol yn creu cyfleoedd i bob dinesydd sy’n helpu i gynnal a chryfhau ein cymunedau.  Gwasanaethau lleol sydd wedi dioddef fwyaf yn wyneb cyni cyllidol; bydd nawdd grant craidd wedi gostwng 20% ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant erbyn 2019-2020. Mae cyllid craidd wedi gostwng 35% os na chynhwysir cyllid ysgolion, hefyd felly mewn llywodraeth leol yn Lloegr.

 

Er bod ysgolion a gofal cymdeithasol wedi’u diogelu i ryw raddau,  nid yw hyn wedi bod yn ddigon i gwrdd â’r galw.

 

Mae gwasanaethau lleol eraill,  y rhai hynny sydd fwyaf gweladwy a gwerthfawr i’n cymunedau, wedi eu distrywio. Mae degawd o doriadau wedi arwain at golled asedau, cyfleusterau a gwasanaethau a oedd yn rhan greiddiol o’n cymunedau ers cenedlaethau ac mae perygl unwaith y collir y fath asedau a gwasanaethau na fydd yn bosibl eu hadfer byth.

 

Mae ein gwasanaethau yn rhai ataliol sy’n cael effaith ar ddiogelwch cymunedol ac iechyd a lles ac yn wasanaeth iechyd lleol sy’n gallu atal pwysau costus ar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

 

Y Fframwaith Ddeddfwriaethol

Gallwn wneud yr hyn y mae arnom angen ei wneud o fewn y fframwaith gaffael bresennol.  Mewn llawer o ffyrdd mae’r tir eisoes wedi’i baratoi. Rydym yn gwybod beth i’w wneud a sut i’w wneud ac rydym wrthi’n datblygu cynllun cyrchu awdurdod lleol. Y ffactor sy’n cyfyngu fwyaf ar hyn yw argaeledd pobl addas i’w gyflawni’r dasg. 

 

Camau Gwella

Os ydym am gynyddu amlder gwariant lleol mae’n rhaid i ni ddeall y bylchau sy’n bodoli o ran cyflenwadau a rhoi rhaglen o newid ar waith cysylltiedig i ariannu a sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phawb,  nid dim ond y lleiafrif arbennig (cyflenwyr) sydd â dylanwad.

 

Y camau gweithredu lefel uchel angenrheidiol yw:

 

o   Gwella argaeledd cyflenwyr addas yng Nghymru.

o   Gwella gallu cyflenwyr yng Nghymru i wneud busnes gyda ni.

o   Gwella gallu Awdurdodau Lleol Cymru i ddyfarnu i gyflenwyr o Gymru.

 

Gallwn wella argaeledd cyflenwyr addas yng Nghymru drwy wneud defnydd gwell o ddata; drwy adnabod bylchau mewn cyflenwadau; drwy roi gwybod am anghenion y dyfodol i’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu ar gyfer yr anghenion hynny  yng Nghymru, a thrwy greu’r amgylchedd busnes ac ariannol i allu darparu ar gyfer yr anghenion hynny mewn modd cynaliadwy.

 

Gallwn wella gallu cyflenwyr yng Nghymru i wneud busnes gyda ni drwy wneud tendro’n haws a thendrau’n haws i’w hennill; drwy ddarparu dewisiadau amgen ymarferol i dendro,  yn arbennig yn y categorïau risg isel o ran caffael megis gofal cymdeithasol; drwy leihau gwastraff o fewn prosesau; drwy weithredu prosesau electronig a defnyddio teclynnau digidol; drwy ddweud wrth gyflenwyr  beth sydd ei angen arnom, beth maen nhw’n ei wneud yn iawn ac ymhle maen nhw’n methu;  fe allem sefydlu ‘pasport i fasnachu yng Nghymru’ fel bod cyflenwyr yn cael eu hasesu unwaith y flwyddyn ar cyfer contractau o werth penodol.  Edrych ar ôl y busnesau bach, cael gwared ar fiwrocratiaeth.

 

Gallwn wella gallu Awdurdodau Lleol Cymru i ddyfarnu i gyflenwyr Cymreig drwy sicrhau bod ein rheolau gweithdrefnol ein hunain yn gyfredol ac yn gefnogol o’r amcan hwn; drwy ddarparu dulliau modern ac effeithiol o fesur gwerth; drwy sicrhau bod gennym bobl gyda’r sgiliau a’r gallu angenrheidiol yn eu lle; drwy ddeall beth yw gwerth a bod â’r gallu i’w fesur yn effeithiol ar sail y cynnig busnes craidd yn hytrach nag ‘arbedion’ damcaniaethol’. Sicrhau bod awdit yn gweithredu er lles pawb gan gefnogi arfer da – byddai’n beth da pe gallai SAC ddarparu rhywbeth ar werth cyflenwadau lleol – rhywbeth fel gwybodaeth ar TOMS CLlL ( mwy am hyn isod) efallai?  Mae hyn oll yn llawer ehangach na dim ond caffael ac yn  newid mewn diwylliant a phrosesau meddwl y mae’n rhaid i bobl gredu ynddynt, gan gynnwys swyddogion A151 ac Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Mae cwynion am reolau afresymol neu ymddygiadau od mewn caffael yn fwy aml na pheidio yn ymwneud â diffyg ymarferwyr gwybodus yn hytrach nag unrhyw beth cynhenid yn y rheolau.  Un o symptomau mwyaf gwrthnysig cyni cyllidol yw colled ein staff mwyaf profiadol, llawer ohonynt wedi ymddeol neu wedi symud ymlaen a’u swyddi heb eu llenwi ar sail ‘tebyg am debyg’. Tra gall staff iau gamu i fyny a chau rhywfaint o’r bwlch, mae angen  cefnogaeth y llond llaw o uwch staff sydd ar ôl ond mae eu hymdrechion nhw o reidrwydd yn gyfyngedig i helpu gyda’r blaenoriaethau lleol sydd fwyaf o angen sylw. Mae diffyg buddsoddiad mewn sgiliau felly yn gwneud pethau’n waeth.  Lle mae dylanwad o fewn sefydliad wedi’i golli, rhaid ailsefydlu meddwl strategol a her. I lawer o bobl mae caffael yn dal i gael ei labelu’n ‘broses’ ac o bosib yn cael ei ystyried yn rhywbeth annymunol y mae’n rhaid ei wneud. Rhaid gweddnewid y feddylfryd hon a gwneud caffael yn rhywbeth sy’n berthnasol i strategaeth, deilliannau a’r dyfodol.

 

Mae prosiect Swyddi Gwell yn Agosach at Adref Llywodraeth Cymru yn esiampl da o’r hyn y gellir ei wneud.  Gallwn wneud mwy o ymyriadau cadwyn gyflenwi tebyg i fodel Preston.  I wneud hyn mae arnom angen gwell data – data sydd yn fwy dynamig a rhagweithiol.

 

Y broblem yw eu bod nhw’n rhoi yn union be’ dwi’n gofyn amdano i mi, a dim mwy.  Be’ dwi eisiau mewn gwirionedd ydi rhywun i edrych ar y data, gweld beth sydd ei angen arnaf ac yna dweud wrthyf  beth yw hynny.”

 

4.       Allwch chi roi enghreifftiau o fentrau caffael cyhoeddus tebyg rywle arall yn y DU a’r UE?

 

Preston yw’r enw a gysylltir â chaffael sy’n cynnal Economiau Sylfaenol ac mae’r awdurdod lleol hwn yn haeddu cydnabyddiaeth.  Fodd bynnag mae’r uchelgais bresennol yng Nghymru yn ddigynsail. Gallwn gyferio at arfer da yn Preston, ond ychydig iawn ohono sy’n wirioneddol  newydd.  Mae llawer o Fodel Preston yn adlewyrchu gweithgareddau cyffelyb sydd eisoes wedi digwydd yng  Nghymru, am resymau tebyg, heb gydnabyddiaeth ehangach. Mae datblygu Cynllun Cyrchu Awdurdod Lleol ar gyfer Cymru, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn digwydd er mwyn cefnogi’r economïau sylfaenol cryfach a chaffael gwell mewn Llywodraeth Leol fel ei gilydd. 

 

Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn cefnogi mentrau caffael cyhoeddus tebyg yn Lloegr.  Mae gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud a diolch i gymrodoriaeth garedig y GLlL yn cymryd rhan weithredol ble gallwn.  Enghreifftiau o hyn yw Strategaeth Gaffael Genedlaethol Llywodraeth Leol (LGNPS) a’r System Themâu, Deilliannau a Mesuryddion (TOMS).  Mae’r LGNPS yn mesur perfformiad caffael Awdurdodau Lleol yn erbyn mesuryddion cytunedig.  Nid oes unrhyw beth newydd yn hyn heblaw bod yr LGNPS yn mesur yn erbyn blaenoriaethau perthnasol pob sefydliad yn hytrach dim ond meincnodi ‘y gorau.’  Mae hyn yn cydnabod yn well bod caffael yno i gefnogi’r sefydliad ac mai’r hyn sy’n bwysig yw bod â chynnig craidd da iawn; does dim ond angen i’r gweddill fod yn ‘ddigon da’. Mae’r Rhwydwaith Penaethiaid Caffael Llywodraeth Leol  yn cymryd rhan yn y fenter Saesneg hon ar sail peilot.  Mae TOMS  yn helpu Awdurdodau Saesneg i fesur eu perfformiad yn erbyn y Ddeddf Gwerth Cymdeithasol ac er mwyn gwella’r modd y caiff gwerth tendrau unigol ei werthuso. Mae’n wir dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fwy uchelgeisiol yma; mae ei darpariaethau’n ehangach ac yn dueddol o fod yn berthnasol hefyd i brosesau cyn caffael a chontractio sy’n pennu sut y mae’r darpariaethau’n edrych a beth y mae caffael yn ceisio ei wneud yn y lle cyntaf.  Er hynny mae yna elfennau o TOMS sy’n ddefnyddiol yn y cyd-destun Cymreig.  Ymhlith y rhain mae darpariaeth Procsiaid Gwerth Cymdeithasol sy’n darparu mesur ariannol o werth cymdeithasol.  Gellir defnyddio’r rhain i ddarparu  gwerthusiad mwy cyflawn o werth o bersbectif yr awdurdod lleol cyfan.  Mae TOMS yn addasu drwy’r amser.   Un datblygiad diweddar yw gwerth procsiaid newydd lle caiff swyddi eu creu mewn meysydd o amddifadedd penodol neu ymysg aelodau cymdeithas sy’n ei chael yn arbennig o anodd dod o hyd i waith.

 

Gall Bancio Cyhoeddus gefnogi datblygiad cyflenwadau lleol ac argaeledd cyflenwyr addas yng Nghymru i gynnal adnoddau cyfredol ac fel dewis ariannol arall â chymhelliad lleol.  Mae cyfoeth o dystiolaeth o’r Almaen lle mae banciau cyhoeddus yn cefnogi ‘Mittelstand’ ffyniannus, sef mentrau canolig eu maint sy’n ffurfio asgwrn cefn economi’r wlad. Mae Swyddogion CLlLC wedi cyfarfod â Dr Richard Werner o Brifysgol De Montford sy’n gwneud achos cymhellol dros fenter debyg yma.  Mae tystiolaeth hefyd o’r Unol Daleithiau.  Ymwelodd yr awdur a’r ymgyrchwr Ellen Brown â Chymru a’r DU ac arweiniodd hynny at fentrau gan yr RSA a sefydliad grŵp o wirfoddolwyr Cymreig a gynorthwyodd i ffurfio Banc Cambria.  Mae’r Banc newydd hwn yn ei hanfod yn mynd i’r afael â rhai pryderon uniongyrchol perthnasol i ehediad  banciau’r stryd fawr.   Fodd bynnag mae perygl y caiff uchelgeisiau economaidd ehangach banc cyhoeddus eu hanghofio yn y sgrialfa am gyllid Llywodraeth Cymru a chyffro cychwyn y sefydliad newydd.   Mae cadernid canmoladwy i’w weld ymhlith rhai o’r unigolion sy’n ymwneud â Banc Cambria ond mae perygl y bydd eu lleisiau’n cael ei ymyleiddio a’r cyfle mwyaf yn cael ei golli.  Mae hyn yn berthnasol i gaffael cyhoeddus gan y bydd cyllid fforddiadwy  ar gael i gyflenwyr yng Nghymru ac yn sgil hynny hyder i fuddsoddi yn economi Cymru i ffurfio’r ‘canol coll’ o fentrau canolig eu maint sy’n ffurfio asgwrn cefn economïau gwledydd eraill.

 

Mae Cefnogaeth Academaidd yng Nghymru wedi bod yn gryf diolch i sector academaidd arloesol sy’n edrych tua Llywodraeth Cymru a pholisïau Cymru yn ei ymchwil. Gallwn edrych ar ein mentrau academaidd Cymreig ein hunain am atebion i’n cwestiynau am gaffael a’r economi.  Mae’r Rhwydwaith Penaethiaid Caffael Llywodraeth Leol wedi bod â diddordeb penodol yng ngwaith diweddar Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru  ar gaffael dan arweiniad yr Athro Steve Martin a’r Athro Kevin Morgan.  Mae swyddogion CLlLC hefyd wedi ymwneud â Rhwydwaith Economi Sylfaenol Cymru a hwylisir gan WISERD dan arweiniad yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion.  Mae’r Athro Pedro Telles  wedi gweithio gydag Awdurdodau Lleol ar greu mynediad i gaffael ar gyfer busnesau bach ac mae rhagor o fentrau ar y gweill sy’n cael eu cefnogi gan y Ffederasiwn Busnesau Bach.  Rydym hefyd yn cydnabod y gwaith y mae’r Athro Dermott Cahill ym Mhrifysgol Bangor wedi ei wneud fel swyddog arweiniol y Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael,  yn San Steffan ac yn rhyngwladol.  Mae’r sylw dyledus yn cael ei roi i’r cyfoeth o brofiad y gallwn fanteisio arno ond mae rhagor o waith i’w wneud, yn benodol, i ddatblygu Ffordd Cymru a sicrhau ei gweithrediad effeithiol. 

 

 

 

AM RAGOR O WYBODAETH CYSYLLTWCH Â:

 

Richard Dooner, Rheolwr Rhaglen

Richard.dooner@wlga.gov.uk

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG

 

Ffôn:    029 2046 8600